Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA533 – Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i asesu anghenion oedolion a phlant am ofal a chymorth, ac anghenion gofalwyr (gan gynnwys gofalwyr sy'n blant) am gymorth. 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesiadau o'r fath.

Gweithdrefn: Negyddol

1.        Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2.

 

 

2.        Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Mae'r drefn asesu gyfredol yn deddfu ar wahân ar gyfer oedolion a phlant. 

Mae Deddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990, Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 a Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 yn cwmpasu'r asesiad ar gyfer oedolion.

 

Mae Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 yn darparu ar gyfer asesu plant mewn angen.

 

O dan Ddeddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i benderfynu, ar ôl cynnal asesiad, a oes angen darparu gwasanaeth i ddiwallu anghenion oedolyn.  Roedd canllawiau a gyhoeddwyd yn 2002 – 'Creating a Unified and Fair System for Accessing and Managing Care' – yn darparu fframwaith safonedig lle gallai awdurdodau lleol benderfynu ar feini prawf lleol o ran pa anghenion y dylid eu diwallu.  Roedd y canllawiau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio'r Broses Asesu Unedig i werthuso anghenion amlwg ac amgylchiadau unigolyn a sut y maent yn cyfyngu neu'n cefnogi eu gallu i fyw'n annibynnol.  Yn 2013, cafodd y canllawiau hyn eu disodli ar gyfer oedolion dros 65 oed gan ‘Integrated Assessment, Planning and Review Arrangements for Older people’ a gyflwynwyd i awdurdodau lleol o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol 1970.

Ar gyfer plant, y prif ganllawiau yw'r 'Framework for assessment for children in Need and their Families', a gyflwynwyd o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol 1970.

 

Ar hyn o bryd, mae Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995, Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000, Deddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004 a Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 yn ymdrin ag anghenion gofalwyr.

 

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ddyletswydd i awdurdodau lleol asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorth pan ymddengys y gall fod angen gofal a chymorth ar oedolyn.  Mae'r ddyletswydd hon yn ehangach na'r hyn a roddir ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol asesu a oes angen gwasanaethau awdurdod lleol ar unigolyn.  Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol asesu a oes angen gofal a chymorth ar unigolyn a beth yw'r anghenion hynny.  Rhaid iddo hefyd nodi graddau'r gofal a chymorth, gwasanaethau ataliol, gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy neu faterion eraill a allai gyfrannu at y canlyniadau yr hoffai'r oedolyn eu sicrhau mewn bywyd o ddydd i ddydd neu fel arall i ddiwallu'r anghenion hynny.

 

Mae'r Ddeddf yn cyfeirio at blant y mae angen gofal a chymorth arnynt, nid plant mewn angen.  Mewn gwirionedd, ychydig iawn o wahaniaeth sydd ar wahân i'r derminoleg a ddefnyddir, er bod y Ddeddf yn gosod dyletswydd ehangach i gadarnhau a oes angen gofal a chymorth ar blentyn.

 

O dan y Ddeddf, bydd gan ofalwyr – a ddiffinnir fel y rheini sy'n darparu neu sy'n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl – yr un hawliau i asesiad a chymorth i ddiwallu eu hanghenion.  Mae'r Ddeddf yn dileu'r gofyniad mai dim ond gofalwyr sy'n darparu swm sylweddol o ofal yn rheolaidd sydd â hawl i gael asesiad gofalwr.

 

Mae'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau yn nodi nad yw'r system gyfredol yn gynaliadwy ac mae'n ceisio symleiddio a gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaeth drwy sicrhau integreiddio gwell, cydweithredu a rhoi rheolaeth a llais cryfach i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn perthynas â'u gwasanaeth a'u llesiant.  Bydd asesiad unffurf yn symleiddio'r broses a fydd yn gyson â'r hyn a fabwysiedir mewn perthynas ag iechyd meddwl ar ôl gweithredu Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011.

 

Gwasanaethau Cyfreithiol

11 Mai 2015